Rhondda (etholaeth Senedd Cymru)

Rhondda
Etholaeth Senedd Cymru
Lleoliad Rhondda o fewn Canol De Cymru
Math: Senedd Cymru
Rhanbarth Canol De Cymru
Creu: 1999
AS presennol: Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur)
AS (DU) presennol: Chris Bryant (Llafur)

Mae Rhondda yn un o etholaethau Senedd Cymru ac sy'n ethol un aelod drwy ddefnyddio'r dull cyntaf i'r felin o ethol ymgeiswyr. Mae hefyd yn un o 8 etholaeth yn Rhanbarth Canol De Cymru, sy'n ethol pedwar AS ychwanegol gan ddefnyddio'r dull aelodau ychwanegol (Additional Member System) ar ben yr wyth arall. Fel hyn, ceir elfen o gynrychiolaeth gyfrannol.

Yr aelod presennol dros yr etholaeth yn y Senedd yw Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur).

Crëwyd yr etholaeth hon ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999; mae ei ffiniau wedi'i sefydlu ar etholaeth a oedd yno o'i blaen, sef etholaeth Rhondda (etholaeth seneddol) a etholai Aelod Seneddol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin yn Llundain.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy